
Mae mis Medi yn fis o lawnder yn yr ardd a’r pantri gyda chnydau’r tymor yn eu hanterth a’r llafur cariad i gyd yn dwyn ffrwyth (yn llythrennol).
Er gwaethaf y tywydd anwadal, oer a gwlyb mae’r ardd yn dal yn llawn bwydydd iach o bob math. Y betys, moron, tomatos a ffa yn cael blwyddyn ardderchog eleni ond y sgwashys a’r winwns wedi stryglo’n ofnadwy heb ddigon o heulwen a gwres.
Cofiwch, os na fuodd cnwd swmpus gyda chi eleni, fydd blwyddyn nesaf yn dra wahanol eto! Fel na ma’i yn yr ardd, bob blwyddyn, ennill a cholli! Dyfal barhau sydd rhaid a dysgu bob dydd!