Mae’r helianthus neu’r blodyn haul lluosflwydd wrth ei fodd â’r tywydd cynnes a sefydlog ![]()
Diolch yn fawr iawn i @alexinwales am roi gwreiddiau planhigion imi nôl ym mis Ebrill! Mae’r blodau yn fagned i bob math o beillwyr yn enwedig pryfed hofran a chachgibwm ![]()
Mae eu henw ‘Helianthus‘ yn dod o’r Iaith Roegaidd ‘Helios‘ sy’n golygu haul, a dyna darddiad ein henw ni am yr haul yn Gymraeg hefyd ![]()
Dewch â mwy o heulwen i’ch gerddi a’ch bywydau a chreu lle ar gyfer y blodyn haul lluosflwydd ![]()
