Hyfforddiant Garddio i Ysgolion Cwm Gwendraeth

Diwrnod arbennig o dda yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru heddiw yn cynnal cwrs hyfforddiant garddio mewn partneriaeth â Cyngor Sir Gar i ysgolion Cwm Gwendraeth.

Mae’r hyfforddiant yn rhan o brosiect newydd i gefnogi pob ysgol gynradd ac uwchradd yng nghlwstwr Maes y Gwendraeth i sefydlu a datblygu gerddi ysgol fel rhan o’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Y gobaith yw atgyfnerthu cyfleoedd dysgwyr ac athrawon i arddio mewn modd sy’n diogelu byd natur, parchu’r amgylchedd a chynhyrchu bwyd iachus yn lleol!

Rwy’n dwlu ar ddiwrnodau fel heddiw ☺️