Plannu Kohlrabi yn y glaw. Ar ôl tyfu kohlrabi am y tro cyntaf yn ystod yr haf a mwynhau ei flas e’n fawr, rwy’ wedi penderfynu tyfu mwy yn ystod y gaeaf.
Mae gymaint o bethau gwahanol allwch chi goginio gyda Kohlrabi. Mae rhyw flas bresych arno a chi’n gallu ei fwyta fel eilydd da i sglodion os ydych eisiau torri lawr ar y carbohydradau er enghraifft neu os chi jyst yn ffansio chenj fach.
Mae nhw’n tyfu’n dda yn ystod misoedd yr hydref a’r gwanwyn pan nad yw’r tymheredd yn rhy uchel ac yn cadw’n dda yn yr ardd yn ystod y gaeaf.
Dyma oedd y drydedd gnwd o lysiau llwyddais i dyfu yn y gwely blwyddyn diwethaf! Cychwyn y gwanwyn gyda’r Cêl Nero wedyn Brocoli ac yna Kohlrabi; dyna un fantais o ddefnyddio’r system dim palu ac nid oes angen cylchdroi cnydau chwaith, jyst rhoi haen o gompost ffres ar y gwelyau a phlannu planhigion newydd yn syth.