Mae garddio mewn modd gynaliadwy yn bwysig dros ben i mi, yn enwedig mewn perthynas â diogelu byd natur a’r cynefinoedd pwysig sydd o’n cwmpas ni yma yng Nghymru.
Mae gymaint o ffocws ar blannu coed i leihau ein hôl-troed carbon ry’n ni’n aml yn anghofio pwysigrwydd y mawnogydd wrth storio carbon yn yr amgylchedd. Mae mawn yn storio gymaint â dwywaith yn fwy o garbon ‘na choed yn ogystal â storio dŵr yn y ddaear ac atal llifogydd mawr.
Rwy’n teimlo’n gryf y dylwn ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu mawnogydd Cymru a’r byd, a rhan o hynny fel garddwr yw sicrhau nad ydyn ni’n defnyddio mawn yn yr ardd.
Yn y fideo hwn rwy’n rhannu dulliau newydd o dyfu cnydau heb gynnwys mawn ac yn rhannu ychydig o gyngor ar sut i addasu’n ffyrdd o arddio i fod yn fwy cynaliadwy. Mae’r fideo hwn yn rhan o gyfres o fideos ffilmiwyd ar gyfer Prosiect Tyfu’r Dyfodol, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Ewch i’w gwefan am fwy o wybodaeth: https://garddfotaneg.cymru/