
Yn y bwlch rhwng y sied a’r tai gwydr roedd cnwd o dato mewn bwcedi (50 bwced i gyd) sydd bellach wedi’u llorio dan bwysau’r golfen Onnen a ffrwydrodd brynhawn ‘ma!
Mae’r golfen yn anffodus wedi’i heintio â chlefyd coed ynn ac er yn edrych yn iach ar y gyfan fe brofodd heddiw i’r gwrthwyneb! Mae perryg fydd y golfen i gyd yn cwympo ar ben y tai gwydr a’r ardd a chreu difrod sylweddol, heb sôn am fod yn beryglus i unrhyw un yn ei llwybr!
Diolch i’r drefn mae ein cymdogion wedi cysylltu â thriniwr coed fydd yn ystyried y camau nesaf, fydd yn anochel yn golygu torri’r golfen i lawr Felly byddwch yn wyliadwrus os oes coed ynn yn eich gerddi, mae nhw’n gallu bod yn beryglus tu hwnt