Mae wedi bod yn dymor da iawn i greu passata neu saws tomato
Mae’r heulwen braf a’r tywydd sych diweddar wedi bod yn garedig iawn i’r planhigion eleni ac wedi golygu ein bod ni wedi llwyddo i dyfu cnwd da iawn, y gorau ers sawl blwyddyn!
Bydda i’n rhostio nhw’n araf am tua 2 / 3 awr ar wres isel yn y ffwrn. Rwy’n gwasgu’r tomatos yn dynn yn y trei ac yn ychwanegu halen, pupur, garlleg, brenhinllys, olew olewydd a jeli ‘fale. Rwy’n blendio’r cyfan ac yna’n rhewi nhw yn y rhewgell yn barod i fwyta gyda phob math o brydau blasus yn ystod y flwyddyn
Rwy’n ei alw’n’ Passato del Gorslas’