
Persli ffres – jyst y peth i roi ar ben top cawl cynnes gyda thocyn o bara menyn a chaws
Mae persli yn berlysieuyn hawdd iawn ei dyfu, naill ai mewn potyn neu yn yr ardd! Mae’n maddau pechodau fel anghofio dyfrio a chwynnu ac yn rhoi’r dail fwyaf ffres pan fydd oerfel y gaeaf yn gafael!
Ffaith y dydd i chi Daw’r enw “persli” o’r gair Groeg petroselinon , sy’n golygu seleri y creigiau oherwydd ei fod yn ffynnu ar greigiau ac mewn craciau ar welydd. Mae persli, selari, moron a pannas i gyd yn yr un teulu, sef teulu’r Apiaceae