Ydych chi wedi plannu eich garlleg eto? Fe blannais i’r garlleg ddydd Sul, dros 100 ewin i gyd felly croesi bysedd am gnwd da flwyddyn nesaf
Sut mae plannu garlleg? Yn syml, gwnewch dwll gyda dibyr neu goes brwsh, tua 4/5 modfedd i mewn i’r pridd. Gosodwch yr ewin unigol, fel welwch chi yn y bowlen fan hyn, yn y twll gyda’r pig neu’r darn tenau yn wynebu am lan a’r darn fflat, sgwâr yn wynebu lawr. Gorchuddiwch y twll gyda chompost ffres neu bridd ysgafn a gadewch lonydd iddynt nes mis Mehefin tan y byddant yn barod i’w cynaeafu.
O le mae cael ewin garlleg? Ddylai y rhan fwyaf o ganolfannau garddio a siopau garddio fod yn eu gwerthu nawr. Mae Solent Wight a Germidour yn fathau da i blannu yng Nghymru
Ydw i’n gallu plannu rhai o’r archfarchnad? Ydych, mae modd tyfu rhai o’r archfarchnad ond byddwch yn barod am ganlyniadau cymysg. Mae nifer o’r bylbiau garlleg brynwn ni yn y siopau wedi’u mewnforio ac felly wedi arfer â thyfu mewn amodau tyfu cynhesach a sychach na Chymru!
Oes angen gardd lysiau i dyfu garlleg? Nag oes, dim o gwbl, gallwch chi dyfu garlleg mewn potiau o gompost neu bridd wrth ymyl y stepen drws, dim ond ichi gofio i ddyfrio’n gyson yn ystod tywydd sych
Top tip? Plannwch yr ewin cyn gynted ag y gallwch chi. Er bod modd tyfu garlleg unrhyw bryd rhwng nawr a Mis Ebrill, cofiwch fod angen tywydd oer a’r y garlleg i dyfu’n gryf a hollti’r ewin i greu clwstwr neu fwlb. Bydd eu plannu ym mis Tachwedd yn sicrhau eich bod yn rhoi’r cyfle gorau posib iddynt!
Ewch amdani a joiwch bob eiliad