Prynhawn da: Chwynnu a chreu bwyd planhigion organig

Mae’r glaw wedi cyrraedd a gyda hynny mae’r chwyn wedi egino ym mhob rhan o’r ardd. Peidiwch boeni, mae gweld chwyn yn yr ardd yn arwydd da bod y pridd yn ffrwythlon a bod yr amodau tyfu nawr yn berffaith ar gyfer tyfu y rhan fwyaf o’n cnydau a’n planhigion ond mae angen inni eu rheoli er mwyn sicrhau nad ydynt yn cystadlu yn erbyn y planhigion eraill sydd gennym yn yr ardd.

Yn y fideo hwn rwy’n rhannu technegau chwynnu ac yn trafod y gwahaniaeth rhwng chwyn unflwydd a chwyn lluosglwydd. Rwy’ hefyd yn defnyddio chwyn o’r ardd i greu bwyd planhigion organig i’r planhigion fwynhau yn ystod y misoedd nesaf.

Dyma eitem a ddarlledwyd ar raglen Prynhawn da. Rhaglen deledu gylchgrawn dyddiol Cymraeg yw Prynhawn Da, gallwch wylio rhaglenni a dysgu mwy am y rhaglen fan hyn.