Dyma fideo o eitem ffilmiais ar gyfer Prynhawn Da ym mis Hydref 2020. Yn yr eitem, rwy’n dangos sut i blannu dol blodau gwyllt yn defnyddio hadau Cynllun Arbennig yr Ardd Fotaneg Genedlaethol – Cynllun Sicrwydd Peillwyr! Mae cadw darn o dir yn ein gerddi ar gyfer tyfu blodau gwyllt yn holl bwysig i helpu ein peillwyr a’n pryfer sydd yn hanfodol ar gyfer ein system eco.
A oes teulu o ddraenogod yn chwilio am gartref clyd newydd yn ystod y gaeaf? Yn yr eitem, rwy’ hefyd yn adeiladu cartref i’r draenog yn yr ardd (Plas y Draenog, fel welwch yn y llun) ac yn eich dangos chi sut i greu un eich hun am y draenogod sy’n galw eich gardd chi yn gartref – rhywbeth rhwydd a llawn sbort i wneud gyda’r plant tra’n rhoi help llaw i natur yr un pryd.
Mae gymaint o fanteision o gael teulu o ddraenogod yn yr ardd i’r garddwr. Mae nhw’n rheoli plâu o bryfed a malwod sydd hefyd yn sicrhau cydbwysedd i system eco’r ardd. Mae niferoedd draenogod wedi gostwng yn ddychrynllyd o sydyn yng Nghymru dros yr ugain mlynedd diwethaf! Mae pob help i’n ffrindiau bach pigog annwyl yn yr ardd yn bwysig!
Dyma top tips Adam ar sut i ddenu byd natur i’ch ardd gefn… 🍂🏡
Adam yn yr ardd
Posted by Prynhawn Da S4C on Dydd Mercher, 14 Hydref 2020