
Dyma canlyniad plannu pwmpenni ychydig yn hwyr ac felly mae nhw’n talu’r pwyth yn ôl ac yn hwyr yn aeddfedu!
Peidiwch boeni, mae modd eu twyllo i droi’n oren o ddilyn y camau canlynol:
1) Os oes rhai ar ôl gyda chi yn yr ardd neu’r caeau, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu casglu nhw cyn i’r rhew gafael arnynt a’u hollti/meddalu.
2) Os hoffech chi eu cadw am gyfnod hir, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw tipyn o bonyn arnynt neu fel arall bydd angen eu bwyta’n syth!
3) Dewch â nhw mewn i’r tŷ neu ar silff cynnes yn y tŷ gwydr (yn ystod y dydd). Mae angen gwres a golau i’w haeddfedu ac yn anffodus nid yw haul mis Tachwedd gystal â Medi a Hydref.
4) Trowch y bwmpen rhyw deirgwaith y dydd fel bod y croen i gyd yn wynebu’r haul. Ymhen bythefnos byddan nhw’n oren ac wedi aeddfedu.
Mor syml â hynny! Fe wnaethon ni gerfio un bwmpen werdd ar gyfer Calan Gaeaf eleni…gwell na dim byd.