Sioe Fawr 2025

Pwy feddyliai, ddwy flynedd yn ôl, y byddem ni nôl fel hyn… ac wedi tyfu o’r llynedd i fod yn rhan annatod o’r Sioe Fawr. Mae’n amhosib peidio teimlo’n emosiynol wrth feddwl am lwyddiant ysgubol y Pentref Garddwriaeth eleni 💚

Heb y bobl – does dim sioe. Mae angen diolch o waelod calon i bawb fu’n rhan o’r antur:

  • Staff y Sioe
  • Partneriaid anhygoel fel Lantra Cymru, Synnwyr Bwyd Cymru, Castell Howell, Ymddiriedolaeth Simon Gibson, Moondance Foundation a llawer mwy,
  • A’n cystadleuwyr a’n harddangoswyr sydd wedi dychwelyd yn eu cannoedd!Fe welsom gynnydd sylweddol yn nifer y plant ac ieuenctid oedd yn cymryd rhan, a’r safon?

O’r llysiau i’r blodau torri, ac o’r celf blodau i’r stondinau masnach – roedd pob un darn yn berlen lachar. Roedd yr ymdeimlad o gymuned ymysg y stondinwyr a’r stiwardiaid yn anhygoel.

Roedd un eiliad bach, bersonol, yn sefyll allan i fi… Y tractor David Brown Cropmaster, sydd wedi bod yn ein teulu ers 1948, yn ôl ym mhentref garddwriaeth. Wncwl Dai fu’n berchen arno’n wreiddiol, Tadcu wedyn ei stripio’n lan, ac Arwyn Gelli fy nghefnder ac wncwl Adrian sydd wedi rhoi eu calonnau i’w ailadeiladu. Roedd e fel cael darn bach o Tad-cu ac Wncwl Dai gyda fi drwy’r wythnos. Wnes i ddim tynnu llawer o luniau, felly dyma rai rwy’ wedi benthyg – roedd gormod o siarad, chwerthin, a mwynhau!

Ond os oes lluniau gyda chi, rhowch nhw fan hyn – byddwn wrth fy modd yn eu gweld 🙏

Diolch i chi gyd. Heboch chi – does dim sioe. Mae’n amlwg bod yr angerdd a’r ymroddiad sydd gennym tuag at arddwriaeth yng Nghymru mor gryf ag erioed 🌼