Mae’n bosib na fydd pob llysieuyn rydych chi’n eu tyfu gartref yn bert iawn neu yn barod i fodelu mewn catalog ond un peth sy’n sicr, bydd eu blas ganwaith gwell!
Yn anffodus, rydym erbyn hyn yn disgwyl i’r bwyd rydym yn ei brynu edrych yn berffaith. Mae ein disgwyliadau o ran beth yw safon neu beth sy’n dderbyniol wedi newid gymaint dros y blynyddoedd. Canlyniad hyn yw gwastraffu bwyd da ar raddfa drychinebus!
Dyma’r cnwd diwethaf o swêds wedi eu cynaeafu ac fel y gallwch weld mae rhai ohonynt llawn tyllau bach a marciau ond gyda thamaid bach o olchi a thorri darnau gwael bant byddan nhw’n berffaith iawn i’w bwyta.
Felly peidiwch ofni bwyd sy’n edrych ychydig yn wahanol, yn y blas mae’r daioni ta beth!