Tafarn y Vale

Prynhawn bendigedig draw yn Ystrad Aeron yn Tafarn y Vale yn cynnal sesiwn holi ac ateb yn ei gŵyl arddio cyntaf ☺️🌻🥕 Mae’n stori gyffrous! Mae’r dafarn gymunedol arbennig hon yn dyheu i dyfu eu llysiau ei hun yng nghefn y dafarn i weini gyda phrydau bwyd yn y dyfodol 👌

Roedd heddiw yn gyfle gwych i gwrdd â wynebau newydd a siaradwyr Cymraeg newydd ddaeth i drochi yn sŵn y Gymraeg (a finne ar fy mocs sebon garddio organig dim palu 😂🙈).

Roedd rhai o’r criw wedi ymuno yn dilyn penwythnos garddio i ddysgu Cymraeg yn Llanbed. Yn eu plith Wyverne yr holl ffordd o Brisbane, Awstralia! Peidied neb a dweud bod y Gymraeg yn ddiwerth tu hwnt i’n cymunedau – mae’n iaith sy’n uno pobl o bedwar ban yn eu cariad a’u hoffter tuag at Gymru!

Diwrnod i’r brenin!