Fy nghynefin yw fy nefoedd!
Braf yw gallu mynd am dro trwy’r caeau tu cefn i’r tŷ a bob tro, rwy’n rhyfeddu ar ba mor wych yw’r cynefin ar stepen ein drws.
Un brynhawn, roedd Tegeirian y gors cynta’r tymor wedi dangos ei liwiau porffor/pinc llachar. Ei enw Lladin ydy Dactylorhiza praetermissa ac mae’n aelod o deulu’r Orchis.
Mae’r caeau cyfagos i ni wedi’i gofrestru fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig gan yr Undeb Ewropeaidd.
Yn y gweunydd rhostir hyn, mae amrywiaeth y blodau cynhenid yn drawiadol tu hwnt ac wrth gwrs nifer y rhywogaethau gwahanol o blanhigion yn gyfoethog iawn!
Rwyf wir yn fy seithfed nef pan fydda i’n crwydro’r caeau hyn!