
Mae’r tŷ gwydr yn ail-lenwi unwaith eto llawn toriadau planhigion yn barod i lenwi’r borderi flwyddyn nesaf Mae mis Medi yn adeg berffaith i luosogi planhigion wrth wneud toriadau. Mae’n ffordd wych o ddiogelu planhigion tyner sydd yn gallu marw os fydd y gaeaf yn oer.
Planhigion fel Mynawyd y Bugail, Nepeta rhedegog a Lafant er enghraifft. Mae creu toriadau planhigion yn gallu dod â’r ysfa fwyaf i greu cannoedd ar gannoedd o blanhigion ac os fydd y rhan fwyaf yn llwyddo ac yn bwrw gwreiddiau bydd llond y lle o blanhigion newydd gyda ni
Hyd yn hyn rwyf wedi gwneud toriadau: Lafant, Pelargonium, Nepeta, pob math o Salvia, Verbena, Penstemon, Calibrachoa, Rhosmari, Teim, Trilliw ar ddeg, Saxifrage neu dor y maen, Asbygen Mihangel a bydd mwy yn ymuno yn y man! Mae ‘na bleser mawr i’w gael wrth greu planhigion newydd yn rhad ac am ddim ac arbed arian