Tyfu Basil

Dyma’r basil yn tyfu’n gryf yn y tŷ gwydr a bron yn barod i’w drosglwyddo i botiau mwy o faint. Hoffech chi dyfu basil?

Dyma 5 tip syml ar sut i dyfu basil yn llwyddiannus:

1) Mae basil angen man heulog a braf i dyfu felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ei blannu mewn cornel heulog o’r ardd neu ar silff ffenest sy’n derbyn digon o olau haul.

2) Gallwch dyfu basil mewn pot bach neu dwb wrth ochr y tŷ. Rwy’n hoffi ailgylchu hen duniau a phlannu’r basil yn rheiny i’w cadw yn y tŷ.

3) Gwnewch yn siŵr nad ydych byth yn gadael i’r planhigyn sychu’n gremp! Er nad yw basil angen gormod o ddwr, mae sicrhau digon o leithder yn allweddol.

4) Cofiwch docio eich basil bob pythefnos fel nad yw’r planhigyn yn aeddfedu a blodeuo. Bydd hyn yn golygu bod gennych ddail basil am gyfnod hir.

5) Gallwch fwydo’r basil gyda gwrtaith organig nawr ac yn y man ond peidiwch â gwneud yn ormodol. Mae rhoi gormod o fwyd iddo yn gallu creu llwyth o dyfiant sydd heb flas persawrus y basil.