Mae yna gymaint o fanteision wrth dyfu blodau torri ein hunain gartref, un o’r prif rai yw lleihau ein hol troed carbon trwy beidio â phrynu blodau torri sy’n cael eu mewnforio. Mae tusw o flodau sydd wedi’u tyfu gartref yn anrheg hyfryd a phersonol ar gyfer achlysur arbennig a gall petalau blodau sych cael eu defnyddio fel conffeti priodas.
Ar gyfer ein priodas ni yn 2019, fe wnaethom pigo blodau o’r ardd i wneud tuswau bach mewn boteli llaeth a’i rhoi o amgylch y lleoliad a fe wnaethom sychu petalau o flodau’r ardd, blodau pys per yn bennaf, a’u ddefnddio fel conffeti a roedd e wir yn berffaith i ni!
Dyma fideo yn dangos sut i fynd ati. Mae gwneud y pethau bach hyn yn gret i natur a pheillwyr, lyfli i’w ddefnyddio yn y cartref a llawer mwy cyfeillgar i’r amgylchedd.
Mwy am brosiect Tyfu’r Dyfodol: https://garddfotaneg.cymru/science/growing-the-future/.