
Dyma’r tomatos yn egino ar ôl 10 diwrnod yn torheulo ar silff ffenest cynnes braf!
Mae’r rhain yn math bach o domatos o’r enw ‘Peacevine’.
Penderfynais hau rhain ychydig yn gynt na’r arfer eleni yn dilyn wythnos o heulwen braf. Byddaf yn hau mwy o hadau tomatos bob hyn a hyn gael ddilyniant o gnwd tomatos yn yr haf.
Rwy’n tyfu’r mathau canlynol eleni:
Y ddraig goch – Cymreig a blasus,
Moneymaker – hen ffefryn Tad-cu,
Mountain Magic – tyfu’n dda yn yr awyr agored heb ddioddef y malltod,
Peacevine Cherry – cynhyrchu tomatos bach melys sy’n berffaith ar gyfer saladau neu fyrbryd bach yn yr ardd wrth botshan,
San marzano – ar gyfer saws tomato fel pasata.