Winwns

Winwns: Setiau neu hadau? Rwy’n plannu winwns bob blwyddyn ar ffurf setiau a hadau ac yn dal ffaelu penderfynu pa ffordd sydd well ‘da fi. Mae plannu setiau yn haws o ran sicrhau cnwd da heb ormod o broblemau ond yn gallu bod yn ddrytach a hefyd yn cyfyngu’r dewis o ran mathau penodol.

Mae hau hadau yn rhad ac yn cynnig pob math o winwns ond yn golygu tipyn bach mwy o ymdrech a gofal i sicrhau cnwd da.

Rwy’n tyfu sawl math gwahanol eleni yn cynnwys:

  • Bedfordshire Champion (hen ffefryn)
  • Yellow Rynsburger (storio’n arbennig o dda yn ôl sôn, newydd i ni eleni)
  • Liria (un arall sy’n newydd i ni eleni)
  • Carmen (coch)
  • Zebrune (sialót)
  • Stuttgarter (wedi tyfu ers yn blentyn)
  • Ishikura (winwns bach salad a phiclo)

Dim ond y Stuttgarter fydda i’n tyfu fel setiau eleni!