Y Cynhaeaf Winwns

Roedd cnwd y winwns llynedd yn ddigon parchus ond ddim cystal â’r flwyddyn cynt.

Tyfais 4 math gwahanol, sef:

Electric: y rhai coch. Doedd rhain ddim yn dda iawn o gwbl – fe aeth llwyth i had.

Snowball: y rhai gwyn. Roedd rhain ddim yn wych chwaith – fe aeth tipyn i had ond ddim cyn waethed â’r winwns coch.

Senshuy: y rhai brown. Rhain oedd y gorau o bell ffordd, hapus â’r cnwd.

Stuttgarter: Roedd rhain dal yn y ddaear pan tynais y llun hwn ond fe dyfodd rhain yn dda ac yn gryf.

Dengys hyn pwysigrwydd o arbrofi gyda mathau gwahanol o gnydau a derbyn na fydd pob cynhaeaf yn un llwyddiannus. Ar ol cynaeafu winwns, gadewch nhw i sychu ac yna eu symud dan do i’r tŷ gwydr/sied allan o’r glaw a gadewch i sychu’n gremp cyn eu storio am y gaeaf.