
Mae’r pwll natur wedi rhewi’n gorn unwaith eto bore ‘ma
Bob blwyddyn fydda i’n cadw cofnod o sawl diwrnod fydd y pwll wedi rhewi rhwng mis Tachwedd ac Ebrill fel rhyw fath o fesur ar ba mor oer yw’r gaeaf. Mae hynny’n golygu rhwng 20 a 30 diwrnod ar gyfartaledd.
Yn barod eleni rwy’ wedi cyfri 20 diwrnod hyd heddiw, llynedd 5 diwrnod oedd y cyfanswm am y tymor cyfan! Mae hynny’n awgrymu bod y gaeaf yn un arferol os nad ychydig yn oerach na’r arfer hyd yn hyn.Mae o leiaf 16 wythnos arall i fynd tan fydd rhew yn annhebygol yn yr ardd felly pwyll piau wrth fynd ati i hau hadau am o leiaf mis neu ddau