Mae’r tŷ gwydr yn llawn dop ag eginblanhigion.
Mae llwyth eto i’w hau a thrawsblannu ‘da fi a dim digon o le…mae hwn yn digwydd bob blwyddyn!
Rwy’n mynnu dweud bob gwanwyn y bydda i’n tyfu digon heb fynd dros ben llestri ac wastad yn cyrraedd mis Ebrill yn pendroni ymhle fydd popeth yn tyfu am weddill y tymor… Mae’n rhan o’r sbort!
Mae’r gwanwyn yn gallu bod yn adeg heriol i arddwyr ar brydiau yn enwedig gyda’r gwahaniaeth rhwng tymheredd ganol dydd a chanol nos mor amlwg, gymaint â 20°C yn aml.
Dyma gyngor syml i’ch helpu yn ystod y cyfnod prysur a chyffrous hwn:
- Agorwch ddrysau a ffenestri’r tŷ gwydr neu ffrâm tyfu yn ystod y dydd. Os oes lluosogwyr (propagators) gyda chi, codwch nhw oddi ar y potiau yn ystod y dydd.
- Dyfriwch yn y bore ac nid gyda’r hwyr i atal oeri’r pridd a meithrin heintiau fel tampio.
- Os ydy rhagolygon y tywydd yn dweud bydd y tymheredd yn gostwng yn is na 5°C dros nos, gorchuddiwch y planhigion tyner dan bapur newydd neu Gaeafgnu Garddio (Horticultural Fleece) i gadw’r llwydrew oddi ar y dail.
- Rhowch eich eginblanhigion mewn man amlwg fel y byddwch chi’n eu gweld nhw bob dydd. Mae eginblanhigion yn sensitif dros ben i bob math o newid ac felly mae’n bwysig ein bod yn cadw llygad barcud arnyn nhw yn enwedig yn ystod yr wythnosau cyntaf.