A dyma ni nawr yn ein hail flwyddyn o gadw gwenyn yn yr ardd
Mae cadw gwenyn yn brofiad anhygoel a mwy mwy fyddai’n dysgu amdanynt y mwyaf rwy’n edmygu a gwerthfawrogi eu gwaith pwysig
Dechreuodd y daith llynedd ar ĂŽl mynd ar gwrs cadw gwenyn gwych gyda MĂȘl Gwenyn Gruffydd Honey. O fewn mis fe brynom ni un teulu o wenyn ac erbyn diwedd y tymor rhannodd y teulu hynny’n dri. Mae’n edrych yn addawol y byddwn wedi goroesi’r gaeaf gyda thri chwch ac os felly mae cynlluniau mawr gyda ni i gynyddu nifer y cychod i o gwmpas 10 erbyn diwedd eleni
Rydym felly wedi clustnodi rhan o’r ardd yn Wenynfa a fel pobman arall yn yr ardd roedd rhaid codi arwydd newydd i nodi hynny. Croesi bysedd am dymor da eleni a chnwd o fĂȘl ym mis Medi