Heddiw i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi rwy’n lansio gwefan newydd www.adamynyrardd.cymru. Mae’r wefan yn ganolbwynt i’r holl gynnwys garddio rwy’n ei greu ar y we gan gynnwys blogiau, adnoddau dysgu garddio, fideos a’r gwasanaethau gallwn ddarparu fel cwmni.
Byddwn yn diweddaru’r wefan yn gyson gyda blogiau newydd yn rhannu cyngor syml am bob pwnc garddio dan haul. Os cewch gyfle ewch i ddarllen y cofnod blog newydd ‘Dewch i gwrdd ag Adam o Orllewin Cymru‘ dyma erthygl gyfrannais i wefan Human’s Who Grow Food yn ddiweddar.
Os ydych chi’n athro neu yn arwain grŵp cymunedol bydd yr adran ddysgu yn cynnwys pob math o fideos ac adnoddau i’ch cefnogi wrth gychwyn eich siwrnai gyffrous yn yr ardd. Defnyddiwch y blwch chwilio ar frig y dudalen i chwilio yn ôl pynciau garddio. Mae’r adran ddysgu yn cynnwys canllaw syml ar docio, sut i haul hadau a chamau syml creu compost i enwi ond rhai o’r adnoddau sydd ar gael.
Os ydych chi’n hoffi garddio neu yn dymuno datblygu’r ardd ond ychydig yn ansicr o ran sut mae cychwyn arni, rwy’n cynnig ystod o wasanaethau garddio i’ch cefnogi chi. Ewch i’r adran wasanaethau i ddysgu mwy.
Un o ddywediadau mwyaf nodedig Dewi Sant oedd ‘Gwnewch y pethau bychain a welsoch ac y glywsoch gennyf i’ dyma obeithio felly y bydd y wefan hon yn adnodd garddio dwyieithog defnyddiol fydd yn hwyluso’ch profiad chi yn yr ardd. Rwy’n gobeithio y bydd yn eich annog i roi cynnig arni ni waeth beth fo maint eich gardd na mawr eich profiad. Gall wneud un peth bach fel plannu hadau blodau neu dyfu eich llysiau eich hunain fyd o wahaniaeth i’r enaid.
Mwynhewch y garddio!